Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 16 Ebrill 2018
Amser:
14.00 -
17.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/4741
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AC (Cadeirydd) Mohammad Asghar (Oscar) AC Neil Hamilton AC Vikki Howells AC Rhianon Passmore AC Adam Price AC Lee Waters AC |
Tystion: |
Andrew Griffiths, NHS Wales Informatics Service (NWIS) Steve Ham, Ymddiriedolaeth GIG Felindre |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Huw Vaughan Thomas - Archwilydd Cyffredinol Cymru Mark Jeffs Mike Usher |
Staff y Pwyllgor: |
Meriel Singleton (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Ni chafwyd unrhyw ymddiheuriadau.
2.1 Cafodd y papurau eu nodi.
2.1 Yn dilyn ystyriaeth yr Aelodau, cytunwyd y bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am eglurhad pellach am heriau digideiddio a chaffael cyhoeddus.
3.1 Nododd yr Aelodau y llythyr a'r ffaith y bydd diweddariad pellach cyn toriad yr haf.
4.1 Nododd yr Aelodau'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun gweithredu a'r ffaith y darperir diweddariad pellach ym mis Medi.
5.1 Ystyriodd yr Aelodau yr ymatebion i'r argymhellion yn Adroddiad y Pwyllgor a'u nodi.
5.2 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru ac at Llyfrgell Genedlaethol Cymru gyda sylwadau'r Pwyllgor ar eu hymatebion.
6.1 Cafodd yr Aelodau dystiolaeth gan Andrew Griffiths, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru a Phrif Swyddog Gwybodaeth Cymru a chan Steve Ham, Prif Weithredwr, Ymddiriedolaeth GIG Felindre fel rhan o'r ymchwiliad i Wasanaethau Gwybodeg GIG Cymru.
6.2 Cytunodd Steve Ham i anfon rhagor o wybodaeth ynglŷn â nifer o bwyntiau a godwyd.
7.1 Derbyniwyd y cynnig.
8.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a ddaeth i law.
9.1 Trafododd yr Aelodau lythyr y Llywydd a chytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ymateb gyda'u barn.
10.1 Nododd yr Aelodau yr ohebiaeth rhwng y Cadeirydd a'r Heads of the Valleys Development Company a'r ffaith y disgwylir ymateb yn nes ymlaen yr wythnos hon gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth.
10.2 Trafododd yr Aelodau yr adroddiad drafft a chytunodd i ystyried drafft arall mewn cyfarfod o'r Pwyllgor.